Prif ffynhonnell y traddodiad am Frynach yw 'buchedd' a gyfansoddwyd yn ôl pob tebyg yn y 12fed ganrif ac a ddiogelir yn llawysgrif Cotton Vesp. A. xiv yn yr Amgueddfa Brydeinig.
Dengys y cyfoeth o fanylion lleol a geir yn y 'fuchedd' mai brodor o Gemaes yng ngogledd Penfro, bron y tu hwnt i amheuaeth, oedd yr awdur. Nid yw'r 'fuchedd' yn dweud dim am hanes blaenorol teulu Brynach, ond edwyn traddodiad Cymreig ef fel Brynach Wyddel. Wedi pererindod i Rufain ac aros rhai blynyddoedd yn Llydaw, glaniodd Brynach ar lannau Aberdaugleddau yn neheubarth Penfro. Symudodd oddi yno i lecyn ar afon Gwaun, ac wedi hynny ymlaen i lannau afon Nanhyfer. Gwnaeth ei breswylfa derfynol yn y fan lle saif heddiw bentref Nanhyfer ar lannau afon Caman sydd yn llifo i afon Nanhyfer. Arglwydd y rhan honno o'r wlad oedd Clechre, ond trosglwyddodd ef ran o'i diriogaeth i Frynach, ac yno y bu i'r sant fyw bywyd o feudwyaeth lem. Yn y rhan yma o ogledd sir Benfro y ceir y mwyafrif o'r mynachlogydd a sefydlwyd gan Frynach, ac y mae croes i'w gweld ym mynwent Nanhyfer a adnabyddir hyd heddiw (ond heb reswm digonol, hyd y gwyddys) fel Croes Fyrnach.
Dethlir gŵyl y sant hwn ar 7 Ebrill.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.