Ganwyd 18 Tachwedd 1756 yn Odiham, Hants., ac addysgwyd yno ac yn ysgol Winchester. Yn 1775 daeth yn ysgolor o Goleg Corpus Christi, Rhydychen, a graddio B.A. Rhagfyr 1778. Cymerodd ei M.A. yn 1782 a'i ethol yn gymrawd o'i goleg yn 1783. Cafodd urddau diacon ac offeiriad gan yr esgob Cornwall o Winchester yn 1784, a dyrchafwyd ef yn brebendari yn eglwys gadeiriol Durham yn 1794, gan ddal bywoliaeth Winston yn yr un esgobaeth.
Ym Mehefin 1803 penodwyd ef yn esgob Tyddewi, a dechreuodd ar unwaith ddiwygio pethau yn yr esgobaeth. Trwyddedodd bedair ysgol y byddai'n barod i ordeinio disgyblion ohonynt ar ôl cwrs o saith mlynedd; sefydlodd gymdeithas er hyrwyddo gwybodaeth Gristnogol ac undeb eglwysig, a mynd ati i gasglu cronfa er adeiladu coleg yng Nghymru i hyfforddi dynion ar gyfer urddau sanctaidd. Llwyddodd yn nodedig yn yr ymgyrch hon, ac yn 1822 gosododd garreg sylfaen Coleg Dewi Sant yn Llanbedr-Pont-Steffan. Cymerodd hefyd ddiddordeb mawr yn y bywyd Cymreig a rhoddi ei nawdd i ymdrechion yr 'offeiriaid llengar' ac i eisteddfod Caerfyrddin yn 1819.
Yn 1825 ymadawodd i esgobaeth Salisbury, a bu farw yno 19 Chwefror 1837.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.