CAMPBELL (MORRIESON), ELIZA CONSTANTIA (1796 - 1864), awdur

Enw: Eliza Constantia Campbell
Dyddiad geni: 1796
Dyddiad marw: 1864
Priod: Hugh Morrieson
Priod: Robert Campbell
Plentyn: Lewis Campbell
Rhiant: Richard Pryce
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 8 Ionawr 1796, yn ferch i Richard Pryce o Gunley (Forden) - bu un o'i hynafiaid, y Capten Richard Pryce, yn filwr blaenllaw ar ochr y Senedd yn y Rhyfel Cartrefol. Bu'n briod ddwywaith; yn gyntaf (1826) â'r Commander Robert Campbell, R.N. (bu farw 1832), cefnder i'r bardd Thomas Campbell; o'r briodas hon ganwyd Lewis Campbell, yr ysgolhaig Groeg; ac yn ail (1844) â'r Capten Hugh Morrieson, E.I.C. (bu farw 1859).

Cyhoeddodd Stories from the History of Wales (1833), ac ail arg. dan y teitl Tales about Wales, yn 1837. Bu farw 1864.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.