CARANNOG (fl. 550?), sant

Enw: Carannog
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Lloyd

a goffeir yn bur gyffredinol. Fe'i cysylltir â Llangrannog yn Sir Aberteifi (lle y dangosir ei ogof, ei sedd, a'i lety), â Carhampton yn Somerset, Grantock yng Nghernyw, Dulane (yn ymyl Kells) yn Iwerddon, Carantec (gerllaw Morlaix) a mannau eraill yn Llydaw. Ymddengys mai yr un mynach-genhadwr a goffeir ynddynt i gyd, gan mai 16 Mai ydyw ei ŵyl mabsant ym mhob un ohonynt. Yn ôl traddodiad yr oedd yn fab neu yn ŵyr i Gunedda Wledig; ar wahân i hyn nid oes ond ychydig y gellir dibynnu arno yn y manion duwiol o hanes ei fywyd a ddaeth i lawr hyd heddiw, er y gellir yn ddiogel farnu i'w deithiau fynd ag ef i Iwerddon a de-orllewin Prydain.

Y mae ar garreg fedd a oedd gynt yn y fynwent, ond sydd yn awr ym mur eglwys Egremont, ger Llawhaden, yr arysgrif CARANTACUS; perthyn yr arysgrif i'r cyfnod hwn, ond ni ellir penderfynu ai coffáu marw Carannog ai ynteu un arall o'r un enw y mae. Dywedir fod y groes yn perthyn i gyfnod diweddarach.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.