Ganwyd 15 Mehefin 1784. Dechreuodd bregethu yn 1802, derbyniwyd ef i'r weinidogaeth yn 1805, a theithiodd yng Nghymru hyd onid aeth drosodd i'r gwaith Seisnig yn 1816. Aeth yn uwchrif yn 1854, a bu farw yn Northwich 8 Medi 1855.
Ef oedd y cenhadwr Cymraeg cyntaf a benodwyd i Fanceinion; ef hefyd a oedd yn gyfrifol yn bennaf am godi'r capel Wesle Cymraeg cyntaf yn Llundain; ac erys ei lythyrau yn Yr Eurgrawn Wesleyaidd, 1829, yn ddogfennau pwysig am hanes cynnar yr enwad, oblegid yn nhŷ ei dad, Henry Carter, y cyfarfyddai'r gymdeithas Wesleaidd gyntaf yn Ninbych.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.