CATHERALL, JONATHAN (1761 - 1833), diwydiannwr a dyngarwr

Enw: Jonathan Catherall
Dyddiad geni: 1761
Dyddiad marw: 1833
Priod: Catherine Catherall (née Jones)
Plentyn: William Catherall
Rhiant: Martha Catherall
Rhiant: John Catherall
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwydiannwr a dyngarwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Dyngarwch
Awdur: Mary Gwyneth Lewis

Yr ieuengaf o dri mab John a Martha Catherall, Bwcle, Sir y Fflint. Tra oedd yn Llundain yn astudio ar gyfer y gyfraith, bu ei dad farw ar 7 Rhagfyr 1777, a daeth adref i gynorthwyo ei fam yn y gwaith llestri pridd a sefydlwyd gan y teulu yn yr 17eg ganrif Wedi marw ei fam yn 1792 cymerodd ef reolaeth o'r cyfan a datblygodd y fusnes yn helaeth. Yn 1792 hefyd y priododd Catherine Jones, merch ficer Llannor a Deneio, Sir Gaernarfon.

Arferai fynychu eglwys Penarlag, ond tua 1785 penderfynodd ymuno â'r Annibynwyr, a bu'n ffyddlon i'w hachos ar hyd ei oes. Pryderai am gyflwr moesol ac ysbrydol ei ardal, lle yr oedd y boblogaeth yn cyflym gynyddu, a bu ganddo ran amlwg ynglŷn â sefydlu achosion yr Annibynwyr yn Bagillt, Holywell, a Bwcle. Cafodd drwydded i gynnal gwasanaethau crefyddol yn ei dŷ, Hawkesbury House, a adeiladodd yn 1801, ac yn 1811 prynodd ddarn o dir, ac ar ei draul ei hun cododd gapel newydd yno. Yr oedd yn gasglwr ar ran y Feibl Gymdeithas Frutanaidd a Thramor yn Sir y Fflint.

Bu ei wraig farw yn 1807 yn 35 oed, ac o'r wyth blentyn a anwyd iddynt bu pump farw yn ieuainc. Yn 1818 bu ei ddwy ferch farw o dwymyn, un yn 24 a'r llall yn 23 oed. Cymerodd ei fab William yn bartner yn y fusnes yn 1819 pan ddaeth i'w oed. Bu farw 31 Gorffennaf 1833 a chladdwyd ef ym mynwent capel Annibynnol Bwcle.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.