CHALONER, THOMAS (bu farw 1598), Dinbych a Chaer, Ulster King of Arms yn ôl rhai awdurdodau.

Enw: Thomas Chaloner
Dyddiad marw: 1598
Priod: Elizabeth Chaloner (née Alcock)
Plentyn: Jacob Chaloner
Rhiant: Dowce Chaloner (née Mathew)
Rhiant: Robert Chaloner
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Ulster King of Arms
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Hanes a Diwylliant; Perfformio; Barddoniaeth; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Rhoddir rhai manylion am yr herald amryddawn hwn - yr oedd hefyd yn baentiwr, hynafiaethydd, bardd, ac actor - gan W. J. Hemp mewn erthygl ('Two Welsh Heraldic Pedigrees, with Notes on Thomas Chaloner, Ulster King of Arms') yn Y Cymmrodor, xl. Pedwerydd mab ydoedd i Robert Chaloner, Dinbych, a'i wraig Dowce, ferch Richard Mathew, Lleweni Green, gerllaw Dinbych, a'i wraig Jane, ferch David Myddelton, Gwaynynog. Bu Thomas Chaloner yn gwasnaethu'r College of Heralds am rai blynyddoedd o dan y teitl ' Deputy to the Office of Arms.' Dywedir iddo gael ei ddewis yn Ulster King of Arms y diwrnod y bu farw, sef 14 Mai 1598, eithr nid ydyw Anthony R. Wagner yn credu i hyn ddigwydd eithr yn hytrach i Chaloner gael ei gyfrif yn ddirprwy-herodr yn sir Gaer. Priododd, 8 Tachwedd 1584, Elizabeth, merch Thomas Alcock, Caer. Mab iddynt oedd JACOB CHALONER (1586 - 1631), a oedd yntau'n herodr ac a fu farw yn Llundain 25 Tachwedd 1631. Cymerasai Thomas Chaloner yn brentis, 10 Ionawr 1587, Randle Holme I, sef y cyntaf o bedair cenhedlaeth o'r un enw a ddaeth yn enwog fel achyddion (am y teulu nodedig hwn gweler cyfrol 1892 Jnl. of the Chester Arch. and Hist. Soc.). Priododd Randle Holme I weddw ei feistr a chymryd ei lys-fab, JACOB CHALONER, yn brentis.

Gor-nai i Thomas Chaloner oedd ROBERT CHALONER (1612 - 1675), Lloran, sir Ddinbych, a Roundway, Wiltshire, a ddaeth yn Bluemantle Pursuivant yn 1660 a Lancaster Herald yn 1665.

Claddwyd Thomas Chaloner yn eglwys S. Michael, Caer.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.