CHARLES, HENRY (1778 - 1840), diwinydd, llenor, a mathemategwr

Enw: Henry Charles
Dyddiad geni: 1778
Dyddiad marw: 1840
Rhiant: Henry Charles
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwinydd, llenor, a mathemategwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Francis Jones

O Ffynnon Loyw ym mhlwyf Breudeth, Sir Benfro; ganwyd yn 1778, mab Henry Charles, amaethwr, a gwr blaenllaw gydag Annibynwyr y 18fed ganrif. Addysgwyd ef yn ysgol capel Annibynwyr Trefgarn Owen, lle y bu yn aelod gwerthfawr. Yr oedd o reddfau naturiol cryf, ac ysgrifennodd lawer o erthyglau ar destunau diwinyddol i fisolion megys Yr Efangylydd a Seren Gomer. Yr oedd yn meddu ar awen farddonol, ac yn dra hyddysg mewn rhifyddiaeth. Bu farw yn 1840, yn 62 mlwydd oed. Claddwyd ef ym mynwent Breudeth. Profwyd ei ewyllys ar 26 Rhagfyr 1840. Gadawodd arian i gapel Trefgarn Owen ac i'r Gymdeithas Genhadol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.