Ganwyd 6 Rhagfyr 1846 yn y Gelli-fach, gerllaw Llanddowror. Symudodd y teulu'n fuan i fferm Waunmabli, rhyw dair milltir i'r de-orllewin o Gaerfyrddin, ac ymaelododd yntau yn Smyrna, Llangain, lle'i codwyd i bregethu. Aeth o ysgol baratoi Parc-y-felfet i Goleg y Bala yn 1871, ac wedi pedair blynedd derbyniodd alwad i Lanuwchllyn. Aeth i Groesoswallt yn 1883, ac i Lôn Swan, Dinbych, yn 1892, lle bu'n fawr ei lafur am chwarter canrif. Ymneilltuodd yn 1917, a bu farw 20 Rhagfyr 1920.
Enillodd safle arweinydd yn ei enwad. Bu am dymor byr yn ystod ei weinidogaeth gyntaf yn is-athro i'r Parch. Thomas Lewis yng Bala gadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1916, ac yn un o olygwyr Y Dysgedydd o 1918 hyd ei farwolaeth. Cymerth ran gyhoeddus hefyd mewn gwleidyddiaeth, ond diwinyddiaeth oedd ei ddiddordeb pennaf. Cyhoeddodd Emanuel (1890), Esboniad ar Lyfr Amos (1900), Esboniad ar Epistol I Ioan (1900), Iawn a Thadolaeth (1905), Agoriad i Ddiwinyddyddiaeth y Testament Newydd (1915). Yn 1924 cyhoeddwyd Y Cysegr Sancteiddiolaf, yn cynnwys cofiant byr iddo, ynghyd â nifer o'i ysgrifau, gan y Parch. T. Jones. Ymgeisiodd yn ei lyfrau gysoni mynegiadau gwyddonol ei gyfnod â safbwynt uniongrededd. Myfyriwr ydoedd yn ei faes yn hytrach nag arloeswr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.