CHURCHEY, WALTER (1747 - 1805), prydydd a thwrnai
Enw: Walter Churchey
Dyddiad geni: 1747
Dyddiad marw: 1805
Priod: Mary Churchey (née Bevan)
Plentyn: Walter Churchey
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prydydd a thwrnai
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins
Aelod o deulu o Wlad yr Haf a gartrefodd yn Aberhonddu 'n gynnar yn y 17eg ganrif ac a fu'n flaenllaw yn y dref; ganwyd 7 Tachwedd 1747. Yr oedd yn un o gefnogwyr cynnar Wesleaeth (Saesneg) Aberhonddu, a daeth yn gyfaill personol i John Wesley, a ohebai ag ef. Gwelir rhestr o'i weithiau yn yr ysgrif arno yn y D.N.B. Bu farw yn y Gelli, 3 Rhagfyr 1805. Ei briod oedd Mary Bevan o'r Cleiro; cafodd chwech o blant, a bu ei ail fab, WALTER CHURCHEY, yn glerc trefol Aberhonddu o 1814 hyd 1840.
Awdur
- Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, (1881 - 1969), Bangor
Ffynonellau
-
Oxford Dictionary of National Biography;
- Theophilus Jones, History of the County of Brecknock. (3ydd arg.), ii, 103;
-
Wesleyan Methodist Magazine (1822–1913),
1823, 134;
- gwybodaeth gan Mr. A. H. Williams.
Dolenni Ychwanegol
- VIAF: 4786710
- Wikidata: Q18530965
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/