Ganwyd 26 Mai 1809, mab George Clark (1777 - 1848), caplan yn y Chelsea Hospital, a Clara Dicey. Fe'i haddysgwyd yn ysgol Charterhouse, a bu am gyfnod yn astudio meddyginiaeth, ond penderfynodd fynd yn beiriannydd. Bu'n gweithio o dan I. K. Brunel ar y Great Western Railway, gan arolygu'r gwaith ar stesion Paddington a'r pontydd yn Basildon a Moulsford; efe a ysgrifennodd y teithlyfr dienw i'r rheilffordd hon a gyhoeddwyd yn 1839 ac a wnaethpwyd yn hanes llawnach yn 1846. Tua'r flwyddyn 1843 aeth i'r India i wneuthur gwaith peirianyddol dros y Llywodraeth, eithr nid arhosodd yno'n hir, o achos ei iechyd. Parodd erthygl a ysgrifennodd i'r Westminster Review iddo gael ei ddewis yn arolygydd o dan y ' General Board of Health,' pryd y bu iddo baratoi adroddiadau a gyhoeddwyd ar gyflwr iechydol rhai o drefi De Cymru; fe'i dewiswyd yn un o dri comisiynydd y bwrdd hwn.
Blwyddyn bwysig yn ei fywyd oedd 1852. Yn y flwyddyn honno fe'i dewiswyd yn ymddiriedolwr o dan ewyllys Syr Josiah John Guest; o hynny ymlaen hyd 1897 efe oedd gwir lywodraethwr gwaith haearn enwog Dowlais. Nid oedd gwaith Dowlais yn talu ar y pryd, eithr bu i Clark, gyda'i athrylith fel gweinyddwr a'i allu i ddewis cyd-swyddogion gwir gymwys, lwyddo i'w ddyrchafu i fod yn un o'r gweithydd pwysicaf yn y wlad. Bu'n cynorthwyo Syr Henry Bessemer i berffeithio'i ddull newydd o wneuthur dur, cyrchodd haearn brwd o Bilbao yn Sbaen ac o fannau newydd yng Nghymru, ac, yn ddiweddarach, er mwyn arbed costau cludo, symudodd y gwaith o Ddowlais i Gaerdydd. Yr oedd ei ddiddordeb mewn materion diwylliannol a chymdeithasol lawn cymaint â'i ddiddordeb mewn busnes a masnach. Codwyd ysbyty Dowlais ar ei gost ef; efe hefyd a fu'n gyfrifol am achosi agor ysgolion Dowlais.
Eithr ar gyfrif gwaith Clark fel hynafiaethydd y coffeir ef yn bennaf. Ysgrifennodd draethawd gwerthfawr ar gastell Caerffili pan nad oedd ond 25 oed. Yn 1843 bu'n helpu i sefydlu'r gymdeithas a adweinid wedi hynny'n 'Royal Archaeological Institute,' a bu cysylltiad hir rhyngddo â hi ac â'r Cambrian Archaeological Association. Oblegid ei fod yn beiriannydd nid yw'n rhyfedd i bwnc amddiffynfeydd y Canol Oesoedd dynnu ei sylw; cyhoeddodd astudiaethau manwl ar amryw gestyll - rhai Cymru yn eu plith - a chyhoeddwyd hwynt gyda'i gilydd yn 1884 o dan y teitl Mediaeval Military Architecture in England, gwaith sydd yn parhau'n bwysig. Cyhoeddodd gasgliad helaeth o siarteri yn ymwneud â Sir Forgannwg - gweler yr ail arg. mewn chwe chyfrol a gyhoeddwyd yn 1910, o dan yr enw Cartae et Alia Munimenta quae ad Dominium de Glamorgancia pertinent. Y gwaith gwerthfawr hwn ydyw sylfaen pob gwaith ymchwil a wnaethpwyd wedi hynny i hanes cynnar y sir honno; hwn hefyd oedd sylfaen gwaith arall gan Clark, sef Land of Morgan (1883). Y mae ei waith ar achau teuluoedd y sir, Limbus Patrum Morganiae et Glamorganiae…, 1886, yn parhau i gael ei ddefnyddio.
Priododd Ann, ferch Henry Lewis, Greenmeadow, Tongwynlais, 3 Ebrill 1850. Bu hi farw 6 Ebrill 1885 gan adael mab, GODFREY LEWIS CLARK, a merch. Bu G. T. Clark farw yn Nhalygarn, gerllaw Pontyclun, 31 Ionawr 1898.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.