COBB, JOSEPH RICHARD (1821 - 1897), hynafiaethydd, o Aberhonddu.

Enw: Joseph Richard Cobb
Dyddiad geni: 1821
Dyddiad marw: 1897
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 25 Ebrill 1821 yn Broughton Castle, swydd Rhydychen. Cyfreithiwr oedd ef wrth ei alwedigaeth, a chyda hynny hyrwyddwr ffyrdd haearn; efô, er enghraifft, a oedd y tu cefn i'r ' Brecon and Merthyr Railway.' Ond hynafiaethau oedd ei brif ddiddordeb, ac yr oedd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Hynafiaethau Cymru. Bu wrth y gwaith o wella cyflwr eglwys y Priordy (bellach yn eglwys gadeiriol) yn Aberhonddu (gweler ei Short Account of S. John the Evangelist… at Brecon, 1874), a hefyd gastell Maenor Byr; prynodd ac adferodd gastell Caldicot, gerllaw Casgwent (Chepstow). Bu farw 6 Rhagfyr 1897.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.