Y mae'r hanes a geir yn ' Buchedd Collen ' yn ddiweddar ac yn un na ellir dibynnu arno. Eithr haedda Collen sylw gan mai ef, yn ôl traddodiad, yw sylfaenydd hen eglwys Llangollen, mam-eglwys holl gwmwd Nanheudwy. Ni choffeir mohono y tu allan i'r cylch hwn oddieithr ym mhlwyf cyfagos Rhiwabon, lle yr oedd ar un adeg gapel Collen. Nid ydyw'n debyg mai'r sant o lannau'r Ddyfrdwy a goffeir yn Trallwng Gollen, trefgordd yn y Trallwng (Welshpool), nac ychwaith yn Castell Collen, y gaer Rufeinig yn ymyl Llandrindod. Cedwid ei ŵyl 21 Mai, a hynny sydd yn cyfrif am ffair Llangollen ar y diwrnod hwnnw (y 31ain ar ôl newid y dull o gyfrif).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.