COLLINS, WILLIAM LUCAS (1815 - 1887), clerigwr ac awdur

Enw: William Lucas Collins
Dyddiad geni: 1815
Dyddiad marw: 1887
Rhiant: Elizabeth Collins
Rhiant: John Collins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Cofir yn bennaf amdano fel golygydd y gyfres Ancient Classics for English Readers, ac a ysgrifennodd ddeg o'r cyfrolau ynddi - am restr o'r rhain ac o'i weithiau eraill, ac am hanes ei yrfa eglwysig yn Lloegr, gweler y D.N.B.

Yr oedd yn un o gyfeillion pennaf Anthony Trollope, ac yn ei reithordy ef yn Lowick (Northants) yr ysgrifennodd hwnnw ei nofel Dr. Wortle's School (Sadleir, Trollope, 308, 394-5).

Yn Oxwich ym Mrowyr y ganwyd Collins, mab y Parch. John ac Elizabeth Collins ', ac fe'i bedyddiwyd ar 23 Mai 1815). Bu yng Ngholeg Iesu, Rhydychen; bu ei dad a'i daid yn offeiriaid amryw blwyfi ym Mrowyr (Foster, Alumni Oxonienses), a gall mai hendaid iddo oedd y 'John Collins, of Swansea, gent.' a enwir gan Foster. Bu ef ei hunan yn rheithor Cheriton ym Mrowyr, 1840-67. Bu farw 24 Mawrth 1887.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.