Ganwyd yn Whitehall, gerllaw Pontnewydd, sir Fynwy, 8 Chwefror 1820. Yr oedd yn ŵr amryddawn; heblaw paentio lluniau yr oedd yn medru paentio ar lestri, cerfio, ac ysgythru; cafodd ei ysgythriadau yn delio â llên gwerin Cymru wobr mewn eisteddfod yng Nghaerdydd. Dechreuodd ysgythr u cyfres o luniau coed sir Fynwy; yr oedd i'w chyhoeddi o dan yr enw ' Silva Silurica,' ond bu ef farw cyn gorffen y gwaith. Ceir darluniau lliw ac ysgythriadau o'i waith yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Yr oedd ei nai, yntau'n CHARLES CONWAY, yn paentio mewn dyfrliw ac yn ysgythru. Rhoes y ddau eu casgliad llysieuegol i ffurfio cnewyllyn y casgliad yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Bu'r ewythr farw 11 Mehefin 1884 yn Pontnewydd House, a chladdwyd ef ym mynwent y Bedyddwyr, Pontrhydyryn, sir Fynwy.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.