COOK, ARTHUR JAMES (1883 - 1931), glowr a swyddog Undeb y Glowyr

Enw: Arthur James Cook
Dyddiad geni: 1883
Dyddiad marw: 1931
Rhiant: Thomas Cook
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: glowr a swyddog Undeb y Glowyr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Huw Morris-Jones

Ganwyd 22 Tachwedd 1883 yn Wookey, Gwlad yr Haf, mab Thomas Cook, milwr, a maged ef yn ystod ei flynyddoedd cynnar mewn awyrgylch milwrol. Wedi gorffen ysgol aeth i weithio fel gwas fferm. Pan oedd yn 17 oed dechreuodd bregethu gyda'r Bedyddwyr; yn 19 oed aeth i weithio i lofa Lewis Merthyr, Trehafod, ac oblegid tyfiant ei syniadau Sosialaidd gadawodd yr enwad.

Bu'n efrydydd yn y Coleg Llafur yn Llundain, a bu'n cynnal dosbarthiadau mewn economeg yn y Rhondda. Etholwyd ef yn llywydd cyfrinfa'r lofa o Ffederasiwn Glowyr De Cymru pan oedd yno'n gweithio dan y ddaear ac yn aelod o bwyllgor canol yr Undeb. Etholwyd ef yn aelod o gyngor trefol y Rhondda ac yn un o lywodraethwyr ysgol ganol y Porth. Yn 1919 gwnaed ef yn gynrychiolydd y glowyr, ac yn 1921 yn aelod o bwyllgor canol Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr; yn 1924 gwnaed ef yn ysgrifennydd, swydd y bu'n ei dal hyd ei farw. Oblegid ei syniadau eithafol cosbwyd ef i dri mis o garchar yn 1918 o dan Ddeddfau Amddiffyn y Wlad; cosbwyd ef hefyd yn 1921 i ddau fis o garchar am gynnal cyfarfod anghyfreithlon. Cymerodd ran amlwg yn streic gyffredinol 1926 a streic hir y glowyr ar ei hôl. Daeth ei rigwm - 'Not a penny off the pay, not a second on the day' - yn gri i'r glowyr drwy'r wlad.

Yn 1926 aeth i Moscow a chafodd dderbyniad brwdfrydig, eithr newidiodd ei opiniynau'n fawr yn ystod y blynyddoedd nesaf ac yn 1929 diddymwyd yr aelodaeth anrhydeddus o Sofiet Moscow a'r efrydiaeth anrhydeddus yn Academi'r Glowyr a roddwyd iddo yn ystod ei ymweliad. Ysgrifennodd nifer o bamffledi, megis The Nine Days, The Miners' Next Step , a Miners' Unofficial Reform. Yr oedd yn aelod o Fwrdd Glo Ymgynghorol Gweinidog y Glofeydd.

Dioddefodd boen corfforol mawr yn ei flynyddoedd olaf, a achoswyd gan ddamwain a gafodd pan yn gweithio dan y ddaear ac a waethygwyd gan ymosodiad arno yn ystod streic 1926. Bu raid torri ei goes, ond ni fu'r driniaeth yn llwyddiant. Bu farw 2 Tachwedd 1931, yn Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.