COX, LEONARD (fl. 1572), ysgolfeistr a llenor

Enw: Leonard Cox
Rhiant: Elizabeth Cox
Rhiant: Laurence Cox
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr a llenor
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Walter Thomas Morgan

Ail fab Laurence Cox o Drefynwy ac Elizabeth ei wraig. Graddiodd B.A. yng Nghaergrawnt ond symudodd i Rydychen a chael gradd B.A. yno, 19 Chwefror 1529-1530. Bu'n feistr ysgol ramadeg Reading tan 1546, ac yn ddiweddarach cadwodd ysgol yng Nghaerlleon. Yn 1572 daeth yn ysgolfeistr ysgol ramadeg Coventry. Yr oedd yn hyddysg yn yr ieithoedd modern, a theithiodd yn eang ar gyfandir Ewrob. Bu'n gyfaill i Erasmus a Melanchthon ac yr oedd ef ei hun yn rhethregydd a gramadegydd o fri. Yn 1524 ysgrifennodd The Art and Crafte of Rhethoryke ac yn 1540 Commentaries upon Will. Lily's Construction of the eight parts of speech. Cyfieithodd o Roeg i Ladin Marcus Eremita de Lege et Spiritu ac o Ladin i Saesneg Paraphrase of the Epistle to Titus gan Erasmus.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.