CROPPER, THOMAS (1869 - 1923), Buckley, Sir y Fflint, hynafiaethydd

Enw: Thomas Cropper
Dyddiad geni: 1869
Dyddiad marw: 1923
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Nansi Ceridwen Jones

Yr oedd yn argraffydd a llyfrwerthwr llwyddiannus, a chymerai ddiddordeb mawr yn hanes lleol a hynafiaeth ei dref enedigol a'r ardal. Cyfrannodd erthyglau yn ymdrin â'r pynciau hyn i The Cheshire Sheaf a The Chester Chronicle, ac yr oedd galw mawr amdano fel darlithydd. Ef oedd awdur Buckley and District a gyhoeddwyd yn 1923 gan Cropper a'i Feibion, Buckley. Bu farw yn 54 mlwydd oed (rai wythnosau cyn cyhoeddi ei lyfr).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.