Y mae ei waith yn ei gysylltu â Harlech ac yn arbennig â Thrawsfynydd. Cadwyd cywyddau ac englyn o'i eiddo yn Cwrtmawr MSS. 238, 244, N.L.W. MSS. 643, 666, 3487, a B.M. MSS. 14966, 14985; yn eu mysg y mae englyn i dre Harlech a ' cywydd ymliwiaeth a'r Byd o waith Gwr a werthodd ei dir,' sef yr Hendrefawr, Trawsfynydd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/