DAFYDD ap LLYWELYN ap MADOG (fl. 16eg ganrif), bardd

Enw: Dafydd ap Llywelyn ap Madog
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Benjamin George Owens

Cadwyd ei waith yn Peniarth MS 124 , Jesus Coll. MS. 14, Llanstephan MS 167 , Cardiff MSS. 7, 23, 63, Hafod MS. 10, B.M. Add. MSS. 12230, 14991, 15015, NLW MS 668C , NLW MS 2602B , NLW MS 6681B , a NLW MS 8330B , a Gwyneddon MS. 3. Yn eu plith y mae cywyddau moliant i Fordeyrn, 'Sant anrhydedd' yn Nantglyn, ac i Ddyfnog, a chywydd i Dduw a dadogir yn Peniarth MS 124 i Ddafydd ap Hwlcyn ap Madog. Ni wyddys a ellir ei gysylltu â'r Dafydd Llywelyn y ceir dau englyn o'i eiddo yn NLW MS 3046D .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.