Ganwyd ym Mhontypŵl 4 Medi 1837, yn fab i Evan Davies (adeiladydd) a'i wraig Sarah Beach. Yn 1856 aeth i Goleg Hyfforddi S. John's yn Battersea; yn 1859 penodwyd ef yn ddarlithydd yn y coleg, ac o 1866 hyd 1894 bu'n brifathro iddo. Cymerodd urddau eglwysig yn 1863, ac yn 1870 graddiodd, gydag anrhydedd ac amryw wobrwyon, yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn. O 1873 hyd 1879 bu'n aelod o Fwrdd Ysgolion Llundain. Penodwyd ef yn 1894 yn ficer Horsham, lle y bu farw 27 Mai 1904; yr oedd yn briod, a chanddo naw o blant. O'i werslyfrau niferus, y mwyaf llwyddiannus oedd The Prayer-Book, its History and Contents, 1877, a aeth i'w ugeinfed argraffiad cyn iddo ef farw. Yr oedd yn ganon mygedol yn Rochester.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.