DAVIES, BENJAMIN (1814 - 1875), Hebreydd

Enw: Benjamin Davies
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1875
Priod: Eliza Davies (née Try)
Rhiant: Silvanus Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Hebreydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Dafydd Rhys ap Thomas

Ganwyd yn Wernberny ger St Clears, mab i Silvanus Davies, ffermwr. Dechreuodd bregethu 'n 15 oed, ond collodd yn ddiweddarach yr huodledd yn y ddwy iaith a'i nodweddai'n gynnar yn ei yrfa. Bu yn ysgolion Glandŵr, 'Forge,' Caerfyrddin, a Rhydyceisiaid, cyn ei dderbyn i Goleg y Bedyddwyr, Bryste (1830). Wedyn bu'n dilyn cyrsiau pellach yn yr ieithoedd Semitaidd yn Nulyn, Glasgow, a Leipzig; yn yr olaf enillodd radd Ph.D. a chyfeillgarwch amryw o Hebreyddion Almaenig nodedig. Dychwelodd yn 1838 ac fe'i hordeiniwyd yn Llundain cyn iddo ymgymryd â'r swyddi academaidd a lanwodd weddill ei oes, sef: (a) prifathro cyntaf y Montreal Training College i hyfforddi cenhadon i wladfaoedd Gogledd America (1838-44); (b) llywydd ac athro diwinyddiaeth yn Stepney Baptist College, Llundain (1844-7); (c) athro ieithoedd Semitaidd yng Ngoleg McGill, Montreal (1847-57); a (ch) athro yn yr ieithoedd clasurol a dwyreiniol yn Regent's Park Baptist College (gynt Stepney) (1857-75). Priododd Eliza Try, o Portland, Maine, yn ystod ei arhosiad cyntaf yng Nghanada; bu hi farw o'i flaen, a bu yntau farw 19 Gorffennaf yn nhŷ ei fab yn Frome.

Ymysg ei weithiau y mae: nodiadau mewn argraffiad newydd o E. Robinson, Harmony of the Gospels; cyfraniadau helaeth i Paragraph Bible y R.T.S. ac i Thes. Syr. Payne-Smith; Student's Hebrew Grammar a Student's Lexicon of the Hebrew Language wedi eu seilio ar weithiau Almaeneg Roediger a Gesenius. Yng Nghanada golygodd y cyfnodolyn The Register (1838-44) i'r Bedyddwyr, ac yn Llundain bu'n aelod o bwyllgor Diwgwyr yr Hen Destament Saesneg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.