Ganwyd yn y Dinas, Rhondda, 28 Medi 1840. Aeth i'r lofa'n ifanc, ac ni chafodd fawr o ysgol, ond ymroes i'w ddiwyllio'i hun, ac ymaelodi yn eglwys y Cymer, Rhondda, lle dechreuodd bregethu. Derbyniwyd ef i Goleg y Bala yn 1866, ond ymhen llai na blwyddyn derbyniodd alwad i eglwysi Glandŵr Taf a Watford. Yn 1873, symudodd i'r Tabernacl, Treorci, ac oddi yno, yn 1885, i Drelech, a chymryd Capel Iwan hefyd dan ei ofal; ac fel ' Davies Trelech ' yr adnabyddid ef yn nyddiau'i boblogrwydd fel pregethwr. Yn 1902 ymadawodd a Threlech â derbyn Ebeneser, Castellnewydd Emlyn, at Gapel Iwan, a rhoes heibio'r olaf eto yn 1918. Cyhoeddodd gyfrol o bregethau, Gair y Cymod, yn 1882, a dilynwyd hwn gan dair arall yng nghwrs y blynyddoedd, sef Y Bywyd Annherfynol, Pyrth Seion, Y Gronyn Gwenith. Cyhoeddodd hefyd ddwy gyfrol o ysgrifau - Cyfaill Ieuenctyd, 1903, a Y Pulpud a'r Seddau, 1909. Ef oedd cadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1904. Yr oedd yn bregethwr gafaelgar, yn cyfansoddi'n ofalus, ac yn ymadroddi'n gryno a phwysleisiol, a dengys ei lyfrau ddoethineb ymarferol a chraffter naturiol cryf. Bu farw 27 Awst 1930 o fewn mis i'w 90 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.