Ganwyd yn Llangadfan, 1 Hydref 1846, mab David a Jane Davies. Aeth i'r weinidogaeth yn 1871, a gwasanaethodd yn y rhan fwyaf o gylchdeithiau Gogledd Cymru, ac yn Lerpwl. Efe oedd llywydd y gymanfa yn 1910. Yr oedd yn un o olygyddion y llyfr emynau Wesleaidd, 1900, ac y mae nifer o'i emynau ynddo ac yn Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd, 1927.
Enillodd ar arwrgerddi - 'Madog ab Owain Gwynedd' (eisteddfod genedlaethol Lerpwl, 1884); 'Cystenin Fawr' (Caernarfon, 1886); 'John Penri' (Llundain, 1887); a llu o wobrwyon eraill. Yr oedd yn amlwg ynglyn â'r eisteddfod fel beirniad ac arweinydd, a bu'n archdderwydd, 1923. Yr oedd yn gystadleuydd cyson ac ymladdwr glew pan dybiai iddo golli ar gam, a dwy o'i frwydrau'n enwog - ynglyn â phryddest eisteddfod Dolgellau, Calan Ionor, 1894 (gweler 'Dydd Coroniad'), a rhieingerdd eisteddfod genedlaethol Lerpwl, 1900.
Cyhoeddodd Caneuon Cadvan, i (Rhosymedre, 1878); Caneuon Cadvan, ii (Dolgellau, 1883); Caneuon Cadvan, iii (Towyn, 1893); Dydd Coroniad (Biwmaris, 1894); Caneuon Cadvan, iv, a ' Dydd Coroniad ' yn atodiad (Biwmaris, 1897); Algof a Phrofiad (hunangofiant) (yn Eurgrawn 1917). Bu farw yng Nghroesoswallt, 12 Hydref 1923.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.