Ganwyd 22 Mai 1859, yn Llangunllo, Sir Aberteifi, mab J. C. Davies. Yn 1875, yn 16 oed, ymfudodd i'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Dychwelodd i Gymru yn 1891, ac yn 1892 golygodd Yr Athrofa - yn yn hwnnw yr ymddangosodd ei ' Anturiaethau yn Nhir y Cewri ' a gyhoeddwyd wedyn yn Saesneg (Llanbedr Pont Steffan, 1892). Yn 1898 ymwelodd ag Awstralia Orllewinol ac aros yno bedair blynedd. Astudiodd arferion brodorion y ddwy wlad a gwnaeth lawer i hyrwyddo mudiadau crefydd a diwylliant ymhlith y Cymry a'r Saeson a ymsefydlasai yno. Ag eithrio taith i Awstralia Orllewinol yn 1907, ac ymweliad â Ffrainc ac Ysbaen yn 1924, treuilodd weddill ei oes yng Nghymru, gan ymroi i astudio ei hanes, ei llên gwerin, a'i hachyddiaeth. Bu farw yn Llanddewi-brefi, 29 Mawrth 1932. Y rhain yw ei brif weithiau: Darlith ar Batagonia (Treherbert, 1891); Patagonia: a description of the country (Treorky, 1892); Adventures in the land of giants: a Patagonian tale (Lampeter, 1892); Western Australia: its history and progress (Nantymoel, 1902); Awstralia Orllewinol (Treorchy, 1903); Folk-lore of West and Mid-Wales (Aberystwyth, 1911); a dau lyfr a argraffwyd yn breifat, Welsh and Oriental Languages (Llanddewi-brefi, 1927); a Life, Travels, and Reminiscences of Jonathan Ceredig Davies (Llanddewi-brefi, 1927). (Alibrintiwyd y cyntaf o'r ddau yn Life, travels and reminiscences).
Y mae hanes Life, travels… yn nodedig. Ni ellir ei gymharu â gwaith crefftwr medrus a phrofiadol, ond byddai'n anodd cael enghraifft ragorach o ddyfalbarhad di-ildio. Ofnid na allai orffen y gwaith oherwydd ei henaint a bod ei iechyd a'i olwg yn pallu ac yntau'n ofni tlodi hefyd. Ychydig o lythrennau argraffu a gwasgfwrdd argraffwasg oedd ganddo, ond trwy osod i fyny ac argraffu tudalen ar y tro daliodd ati nes gorffen y llyfr - cyfrol bedwarplyg o 438 o dudalennau 'a ysgrifenwyd, a drefnwyd, a argraffwyd ac a gyhoeddwyd ganddo ef ei hunan.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.