Ganwyd yng Nghroesoswallt, a phrentisiwyd ef gyda haearnwerthwr. Dechreuodd ymddiddori yng nghreigiau'r ardal ac ymunodd â'r Oswestry Naturalists Field Club. Yn 1852 ymsefydlodd fel peiriannydd mwnawl a bu'n llwyddiannus yn yr alwedigaeth hon - yn enwedig yng Ngogledd Cymru, ac yn Ffrainc, yr Almaen, a Norwy hefyd.
Cyhoeddodd lyfryn at wasanaeth ymwelwyr â Llangollen a'r cylch - cafwyd 3ydd argraffiad ohono yn 1864. Ceisiodd yn hwn esbonio rhai o ddiddordebau daearegol yr ardal. Gwnaeth gyfraniadau gwerthfawr tuag at gynnydd gwybodaeth o ddaeareg Gogledd Cymru gyda'i erthygiau yn y Geological Magazine, Proceedings of the Geologists' Association; ysgrifennodd hefyd erthyglau i'r British Architect a'r British Quarterly. Enillodd wobrau mewn eisteddfodau, e.e. ' The Metalliferous Deposits of Denbighshire and Flintshire ' (Caernarfon, 1880), a ' The Fisheries of Wales ' (Lerpwl, 1884). Ymysg ei lyfrau ar ddaeareg economyddol y mae Treatise on Slate and Slate Quarrying in North Wales, 1878 ac 1880; Treatise on Earth Minerals and Mining, 1884; a A Treatise on Metalliferous Minerals and Mining, 1880; gadawodd ar ei ôl draethawd anorffenedig ar ddaeareg Gogledd Cymru. Yr oedd hefyd yn bregethwr lleygol, a chyhoeddodd gyfrol o bregethau - The Christ for all the Ages. Bu farw ar ei ffordd adref o daith busnes yn Norwy, 19 Medi 1885.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.