DAVIS, DAVID DANIEL (1777 - 1841), meddyg
Enw: David Daniel Davis
Dyddiad geni: 1777
Dyddiad marw: 1841
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins
Ganwyd ym mhlwyf Llandyfaelog, Caerfyrddin, 15 Mehefin 1777. Bu yn ysgol ramadeg Caerfyrddin, wedyn yn academi Ymneilltuol Northampton, ac wedyn ym Mhrifysgol Glasgow, lle y graddiodd yn 1801. Gweithiodd fel meddyg yn Sheffield hyd 1813, pan symudodd i Lundain, a chael ei benodi'n feddyg i'r Queen Charlotte's Hospital. Yn 1819, efe a weinyddai ar dduges Caint pan aned y frenhines Victoria. Penodwyd ef yn 1827 yn athro bydwreigyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol yn Llundain. Bu farw 4 Rhagfyr 1841.
Awdur
- Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, (1881 - 1969)
Ffynonellau
- T. Iorwerth Jones yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion., 1932-3 (gyda rhestr o'i bapurau argraffedig)
-
Lives of the Fellows of the Royal College of Physicians, iii, 117
- Oxford Dictionary of National Biography
-
Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru, i, 173
Darllen Pellach
- Erthygl Wicipedia: David Daniel Davis
Dolenni Ychwanegol
- VIAF: 74634951
- Wikidata: Q5232812
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/