DAVIES, WILLIAM DANIEL (1838 - 1900), llyfrwerthwr

Enw: William Daniel Davies
Dyddiad geni: 1838
Dyddiad marw: 1900
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfrwerthwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd mewn bwthyn o'r enw Llety gerllaw Felindre, Penboyr, Sir Gaerfyrddin, 15 Mehefin 1838. Yn 1857 dechreuodd weithio yng ngweithiau haearn Hirwaun ac Aberdâr; bu'n gweithio hefyd, yn ddiweddarach, yn Llwydcoed lle yr ymunodd â Moriah, eglwys y Methodistiaid Calfinaidd. Symudodd i'r Rhondda yn 1862 i weithio yn y pyllau glo. Dechreuasai bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd tua'r adeg hon.

Yn 1868 ymfudodd i U.D.A., gan ymsefydlu yn Hyde Park, gerllaw Scranton. Yn fuan ar ôl cyrraedd ymunodd â llu o Gymry eraill yn America i gyhoeddi papur newydd - Baner America. Ysgrifennodd lawer o erthyglau i'r papur hwnnw; ymwelodd â Chymru yn 1874 a rhoes hanes ei daith yn ei golofnau. Bu am flynyddoedd lawer yn trafaelio fel gohebydd Y Drych, newyddiadur Americanaidd arall. Yr oedd hefyd yn adnabyddus fel darlithydd cyhoeddus. Yr oedd ar daith ddarlithio yng Nghymru pan fu farw yn Wrecsam, 22 Mawrth 1900.

Cyhoeddodd amryw lyfrau. Yn eu plith y mae: Llwybrau Bywyd neu Haner Can Mlynedd o Oes Wm. D. Davies (Utica, 1889), Cartref Dedwydd ac Ysgol y Teulu, 1897, ac America a Gweledigaethau Bywyd, 1894.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.