DAVIES, DAVID (1741 - 1819), awdur

Enw: David Davies
Dyddiad geni: 1741
Dyddiad marw: 1819
Rhiant: Richard Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: James Frederick Rees

The Case of Labourers in Husbandry (London, 1795). Fe'i cymysgir yn aml â'r Dr. David Davies (1755 - 1828), prifathro ysgol ramadeg Macclesfield - o bosibl oblegid i'r ddau gael eu geni ym Machynlleth a chael eu haddysg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Rheithor Barkham oedd awdur The Case of Labourers …; y mae cofeb yn yr eglwys honno yn dangos iddo wasanaethu y plwyf hwnnw am 37 o flynyddoedd a marw ar 6 Chwefror 1819. Cymerai ddiddordeb dwfn yn ymdrafod ei oes ar gyflwr y tlodion, sef yr ymdrafod y rhoddwyd cychwyn iddo gan y codiad cyflym yn nhreuliau cario allan y deddfau ynglŷn â'r tlodion, yn enwedig yn y plwyfi gwledig. Ar â'l iddo fod yn ymchwilio'n ofalus a gohebu ag amryw, gallodd baratoi tablau yn dangos incwm a threuliau teuluoedd cynrychioladol a oedd yn byw mewn gwahanol rannau o'r wlad. Ymysg y rhai hyn yr oedd manylion ynghylch tri theulu ym mhlwyfi Llandegla a Llanarmon yn sir Ddinbych a dau deulu ym mhlwyfi Llanfair a Llanycil yn Sir Feirionnydd. Yr oedd felly yn arloeswr yn y gwaith o gasglu defnyddiau tuag at lunio cyllidebau teuluol. Ceir ffrwyth ei ymchwil wedi ei argraffu fel atodiad i'w The Case of Labourers … 1795, ac ail argraffiad, wedi ei dalfyrru (London, 1828), cyfrol sydd yn ddogfen gymdeithasol nodedig. Cyflwynodd y gwaith i'r Bwrdd Amaethyddol (answyddogol) a sefydlasid yn 1793, gan ei fod yn ystyried bod cael gwelliant yn safon byw y llafurwr amaethyddol yn anghenraid na ellid gohirio mohono. Profodd yn eglur iawn fod Treth y Tlodion yn cael ei defnyddio fel offeryn i ychwanegu at gyflogau a oedd yn annigonol, a dadleuai dros egwyddor lleiafswm cyflog ('minimum wage') fel meddyginiaeth. Y mae ei sylwadau ar yr hyn a fwyteid gan y tlodion a'r modd yr oeddent yn eu dilladu eu hunain, ei ddadl dros roi iddynt gyfle i drin darn o dir at eu pwrpas eu hunain ('allotment'), a'r dull deheuig yr oedd yn gosod ei ffeithiau o flaen y darllenydd, yn profi ei fod yn sylwedydd dyngarol a deallus ar delerau byw yr oes yr oedd yn byw ynddi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.