DAVIES, DAVID (1764? - 1828), gweinidog ac athro Annibynnol

Enw: David Davies
Dyddiad geni: 1764?
Dyddiad marw: 1828
Plentyn: John Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog ac athro Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd tua Llansawel; nodir ei fod yn 19 oed pan aeth i Gaerfyrddin yn 1783. Gadawodd yr academi yn 1785, ac urddwyd ef yn weinidog Llan-y-bri. O 1795 hyd 1813 bu'n gydathro â David Peter yng Nghaerfyrddin, ond daeth ei yrfa yno i ben yn herwydd cyhuddiadau (nas profwyd) o anfoesoldeb. Daliodd i fugeilio Llan-y-bri, ond ni bu hi'n esmwyth arno yno chwaith; yn wir, ymadawodd mwyafrif ei gynulleidfa gan gychwyn achos arall yn y Capel Newydd. Ystyriai rhai Calfiniaid hefyd nad oedd yn iach yn y ffydd. Bu farw 27 Tachwedd 1828 trwy syrthio oddi ar ei geffyl a boddi, gerllaw Rhyd-y-gors. Bu'n briod ddwywaith.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.