DAVIES, DAVID ('Dafi Dafis, Rhydcymerau '; 1814 - 1891), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: David Davies
Ffugenw: Dafi Dafis, Rhydcymerau
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1891
Priod: Mary Davies (née Evans)
Priod: Margred Davies
Plentyn: Eleanor Lloyd (née Davies)
Rhiant: Eleanor Davies
Rhiant: David Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 24 Awst 1814 yn Llwydcoed ger Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, mab David ac Eleanor Davies. Cafodd ychydig addysg a dilynodd grefft ei dad (turniwr). Symudodd gyda'i rieni i Rydcymerau yn lled ieuanc. Dechreuodd bregethu yn 1834; ordeiniwyd ef yn 1880. Bu'n briod ddwywaith, (a), â Margred, merch Coed Iarll, Llansawel, Morgannwg; (b), â Mary Evans, Tir-Ifan-ddu, merch i hanner-brawd Thomas Evans (' Tomos Glyn Cothi '). Trigai, o 1860 hyd ddiwedd ei oes, yn Cwmcyfyng ger Capel Isaac; bu farw 2 Ionawr, 1891.

Er prinned ei addysg fore, ymddiddorai mewn ieithoedd, a darllenai'r Beibl yn feunyddiol yn yr ieithoedd gwreiddiol. Yr oedd yn nodedig am ei ddull dramatig o bregethu, ac erys ei atebion cyflym a'i sylwadau ffraeth yn rhan o draddodiad gwlad. Yr oedd llawer o'i hynodion i'w priodoli'n rhannol i'w fyddardod, a buont yn ddigon i lanw cyfrol ar ôl ei farw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.