DAVIES, JOHN DAVID (1831 - 1911), hynafiaethydd

Enw: John David Davies
Dyddiad geni: 1831
Dyddiad marw: 1911
Rhiant: Louisa Davies
Rhiant: John Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd ym mhersondy Oxwich, 14 Ionawr 1831, mab John Davies, rheithor Reynoldston (1834-1873), a'i wraig Louisa. Ymunodd â Choleg y Drindod, Dulyn, fel ' Ysgolor Rossall,' 28 Hydref 1850; graddiodd yn B.A. 20 Chwefror, gan gymryd tystysgrif diwinyddiaeth 24 Mawrth 1855, ac M.A. 1859. Ordeinwyd ef yn ddiacon 23 Medi 1855, a'i drwyddedu i guradiaeth Nicholaston, ac yn offeiriad 21 Medi 1856. Bu'n gaplan dros gyfnod i iarll Milltown. Cafodd reithoraeth Llanmadog 28 Mehefin 1860, a Cheriton 2 Awst 1867, a daliodd y ddwy ynghyd am weddill ei oes. Adnewyddwyd y ddwy eglwys o dan ei ofal. Yr oedd yn gerfiwr medrus mewn coed, a gwelir ei waith yn eglwysi Llanrhidian, Llanmadog, Llangennydd, a Cheriton. Bu farw yn ddibriod, 30 Medi, a'i gladdu, 4 Hydref 1911, ym mynwent Cheriton. Gwnaeth ymchwil fanwl i hynafiaethau Gŵyr, a chyhoeddodd ffrwyth ei lafur mewn pedair cyfrol - A History of West Gower (Abertawe, 1877-94). Cyhoeddodd hefyd A few words on noncommunicating attendance (Abertawe 1879).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.