Ganwyd 28 Ionawr 1858, yn fab i William David, rheithor Sain Ffagan. O Ysgol Magdalen yn Rhydychen, aeth yn 1876 i'r Coleg Newydd yno, a'i fryd ar urddau eglwysig; yn 1878 enillodd le yn y dosbarth blaenaf yn yr arholiad 'Moderations' yn y clasuron, ond yn herwydd afiechyd bu raid iddo ohirio ei arholiad terfynol, a graddio yn 1881 heb 'anrhydedd.'
Yn y cyfamser, yr oedd wedi newid cwrs ei fywyd, ac ymddiddori mewn daeareg. Yn 1882, cafodd swydd fel daearegwr dan Lywodraeth New South Wales, ac yn 1891 etholwyd ef yn athro daeareg ym Mhrifysgol Sydney. Bu ar gyrch ymchwil yn 1897, yn astudio problem datblygiad yr 'atolau' cwrel, ac etholwyd ef yn F.R.S. yn 1900.
Yn 1907-9, yr oedd gyda Shackleton yn ei daith tua'r Pegwn Deheuol. Pan dorrodd rhyfel 1914, ffurfiodd David gatrawd o gloddwyr o Awstralia a fu o wasanaeth mawr yn Ffrainc; ac urddwyd ef yn farchog yn 1920. Dychwelodd i Awstralia ac aeth ati i gynhyrchu ymdriniaeth safonol â daeareg cyfandir Awstralia, ac i baratoi map cyflawn o ddaeareg Awstralia; i'r pwrpas hwn, rhyddhawyd ef yn 1922 o'i waith darlithio, ac ymddeolodd o'i gadair yn 1924.
Bu farw yn ddisymwth braidd, 28 Awst 1934.
Cafodd bob math o anrhydedd ar law gwladwriaethau a chymdeithasau gwyddonol a phrifysgolion - ymysg y rhain, rhoes Prifysgol Cymru iddo radd D.Sc. yn 1926. Y mae yn Neuadd Dinas Caerdydd gopi o ddarlun ohono gan Norman Carter.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.