DAVIES, EDWARD (1756 - 1831), clerigwr ac awdur llyfrau

Enw: Edward Davies
Dyddiad geni: 1756
Dyddiad marw: 1831
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur llyfrau
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Griffith John Williams

Ganwyd 7 Mehefin 1756 mewn fferm o'r enw Hendre Einion ym mhlwyf Llanfaredd yn sir Faesyfed. Fe'i haddysgwyd gan amryw offeiriaid yng nghymdogaeth ei gartref, ac yn 1774 bu am flwyddyn yn ysgol ramadeg Aberhonddu.

Yna bu'n ysgolfeistr yn y Gelli (sef Hay), ac yn 1779 fe'i hurddwyd yn ddiacon. Bu'n gwasanaethu fel curad mewn amryw leoedd yn y cyffiniau hynny. Yn 1783, cafodd le fel athro yn ysgol ramadeg Chipping Sodbury yn sir Gaerloyw, ac arhosodd yno hyd 1799, pan gafodd guradiaeth Olveston yn yr un sir. Fe'i penodwyd yn rheithor Llandeilo Ferwallt (sef Bishopston) yng Ngwyr yn 1805. Arhosodd yn Olveston hyd 1813, ond o'r flwyddyn honno hyd ei farw, cartrefai yn Llandeilo Ferwallt.

Cyhoeddodd gasgliadau o farddoniaeth Saesneg ac un nofel, yn ogystal â thrafodaeth ar ddilysrwydd Ossian (1825), ond cofir amdano heddiw fel awdur dau lyfr sy'n ymwneuthur â phynciau Cymreig a Cheltaidd, sef Celtic Researches, 1804, a The Mythology and Rites of the British Druids, 1809. Er ei eni mewn gwlad lle yr oedd y Gymraeg yn diflannu, ac er bod ei Gymraeg llafar yn bur glapiog, eto cymerai ddiddordeb mawr yn y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd, a lluniodd gasgliad mawr o'u gweithiau, casgliad a ddefnyddiwyd gan olygyddion y The Myvyrian Archaiology of Wales . Fe'u hastudiodd yn ofalus, ac yn y gyfrol ar y Derwyddon ceisiodd ddangos fod y cerddi hyn yn cadarnhau damcaniaeth Joseph Bryant, mai'r grefydd bur, batriarchaidd, wedi ei llygru ar ôl y Dilyw, a welir ym mhob hen chwedloniaeth. Er ei fod yn dangos cryn graffter ar brydiau, eto nid oedd ganddo unrhyw fath o gymhwyster i ddehongli'r hen farddoniaeth. Er hyn, dylem gofio mai ef oedd un o'r rhai cyntaf i amau dilysrwydd yr hyn a ddywedai 'Iolo Morganwg' am Orsedd yn Beirdd. Yr oedd yn weithiwr dyfal, ond bu'n anffodus yn ei gyfnod. Gellir tybied ei fod yn gymeriad hoffus, a daw hynny i'r golwg yn y llythyrau a yrrodd ei hen gyfaill, Theophilus Jones, ato. Ceir llawer o'i lawysgrifau yng nghasgliad y Tonn yn Llyfrgell Rydd Caerdydd.

Bu farw 7 Ionawr 1831.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.