DAVIES, EVAN (1750 - 1806), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Evan Davies
Dyddiad geni: 1750
Dyddiad marw: 1806
Rhiant: James Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Harris Lewis

Ganwyd yn 1750 yn Nyffryn Llynod ym mhlwyf Llandysul. Yr oedd ei dad, James Davies, yn weinidog eglwysi'r Cilgwyn, Abermeurig, a Chiliau Aeron. Bu Evan Davies am rai blynyddoedd yn athrofa Caerfyrddin. Yn 1775 urddwyd ef yn gyd-weinidog eglwys Llanedi, lle y llafuriodd hyd ddiwedd ei oes. Bu farw 12 Ebrill 1806 yn 56 oed.

Yr oedd Evan Davies yn bregethwr derbyniol ac yn ŵr tangnefeddus a diwyd iawn. Nid ymyrrai yn y dadleuon diwinyddol a gynhyrfai'r eglwysi yn y dyddiau hynny ond ymdaflai i'r gwaith o ehangu terfynau Annibyniaeth yn y cylch. Bu'n foddion i sefydlu nifer o achosion, megis Llanelli (Capel Als), 1780, Cross Inn (Rhydaman), 1782, Penbre, ac, yn wyneb llawer o erledigaeth, Cydweli (Capel Sul), 1785.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.