Ganwyd 1794 yn y Cefn, Llanbrynmair, nai i'r Parch. Thomas Davies, Llanuwchllyn. Addysgwyd ef yn athrofa y Drenewydd. Dechreuodd ei yrfa fel cenhadwr cartrefol yng nghymdogaeth Bilston. Bu flwyddyn yng ngwasanaeth eglwys y Tabernacl, Lerpwl, yn absenoldeb y gweinidog, J. Breese. Urddwyd ef yn weinidog yn Llanrwst yn 1827. Symudodd i Lannerchymedd yn 1834 ac yn 1841 i Drelawnyd, lle yr arhosodd weddill ei oes. Efo, meddir, oedd y cyntaf i sefyll yn gyhoeddus dros fudiad llwyr-ymwrthod â diodydd meddwol. Mynnodd ei edmygwyr yn Llannerchymedd wneuthur tysteb iddo, trosglwyddodd yntau'r arian at ddi-ddyledu ei gapel, a ' Capel Ifan ' y gelwir ef o hyd. Sgrifennai yn fynych ar wahanol faterion i'r Wasg dan yr enw ' Eta Delta '; ysywaeth, tramgwyddus i'w frodyr yn y weinidogaeth oedd llawer o'i olygiadau a'i ddull o'u mynegi. Cythruddodd y beirdd-bregethwyr, rhai ohonynt yn wyr amlwg iawn yn y Gogledd, drwy ddilorni cystadlu mewn eisteddfodau oherwydd fod hynny yn peri iddynt esgeuluso eu priod-waith. Anghydnaws hefyd oedd ei syniadau am gymwysterau dynion i'r weinidogaeth. Mynnai y dylai y neb na chafodd addysg athrofaol ymfodloni ar weinidogaethu mewn lleoedd diarffordd a dinod! Bryd hynny, gwyr 'di-goleg' oedd rhai o bregethwyr mwyaf poblogaidd y dydd. Daliai hefyd na ddylid caniatáu i blant anghyfreithlon, annirwestwyr, ac anafusion fyned i'r weinidogaeth. Achosodd hyn oll deimladau chwerwon tuag ato o lawer cyfeiriad. Cyhoeddodd amryw fân draethodau, e.e., Iachawdwriaeth Babanod (1833), Cyngorion a Chyfarwyddiadau Meddygol (1840), a Y Weinidogaeth a'r Eglwysi (1844) a barodd gryn gyffro - ailgyhoeddwyd hwn gydag ychwanegiadau (1854). Bu. farw 1 Mawrth 1855.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.