Ganwyd ym Maes-yr-adwy, Llanfynydd. Addysgwyd yn ysgol ramadeg Llandeilo-fawr, yn Nhrefeca, ac yn Glasgow, lle'r oedd yn 'Ysgolor y Dr. Williams' (1876) ac y graddiodd yn 1880. Wedi gweinidogaethu yn Llanelli, bu yn eglwys Jewin (Llundain) o 1886 hyd 1911, yna'n fugail yn Llandeilo-fawr a Llanelli; bu farw yn Nhre-Gwyr, 19 Hydref 1929. Bu'n llywydd cymdeithasfa'r Deheudir yn 1901-2, ac yn 'Ddarlithydd Davies' yn 1916.
Sgrifennai lawer i'r Geninen, a dug allan Gyfrol Goffa James Hughes, 1911, a llyfrau eraill. Cystadleuai'n fynych mewn eisteddfodau, ac yn eisteddfod genedlaethol Llanelli, 1903, enillodd y goron. Cyhoeddwyd ei farddoniaeth yn gyfrol, Blodau'r Grug, 1922.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.