DAVIES, WILLIAM HENRY (1871 - 1940), bardd ac awdur

Enw: William Henry Davies
Dyddiad geni: 1871
Dyddiad marw: 1940
Priod: Helen Davies (née Payne)
Rhiant: Mary Ann Davies
Rhiant: Francis Boase Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Lawrence William Hockey

Ganwyd 3 Gorffennaf 1871 yn Pilgwenlly, Casnewydd-ar-Wysg, mab Francis Boase Davies, mowldiwr haearn, Casnewydd-ar-Wysg, a'i wraig Mary Ann. Aeth i'r ysgol elfennol, a thra yr oedd yno datblygodd ei ddiddordeb mewn barddoniaeth. Wedi gorffen ei brentisiaeth fel cerfiwr a goreurwr, aeth ar dramp yn U.D.A. a Chanada, a chollodd ei droed wrth geisio neidio ar drên ym mis Mawrth 1899. Dychwelodd i Loegr a phenderfynu llwyddo fel bardd. Ar ôl llawer o anawsterau a siomedigaethau, cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, The Soul's Destroyer and Other Poems, ym mis Mawrth 1905. Dilynwyd hwn gan eraill; erbyn 1911 yr oedd yn fardd a llenor cydnabyddedig, yn awdur wyth o lyfrau, ac yn cael blwydd-dâl o restr sifil y Llywodraeth. Priododd Helen Payne yn 1923. Yn 1929, yn rhinwedd ei wasanaeth i lên, rhoddwyd iddo radd D.Litt., er anrhydedd, gan Brifysgol Cymru. Pan fu farw yn Nailsworth, swydd Gaerloyw, 26 Medi 1940, yr oedd yn awdur tua 50 o lyfrau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.