DAVIES, JAMES (1765 - 1849), ' ysgolfeistr Devauden ';

Enw: James Davies
Dyddiad geni: 1765
Dyddiad marw: 1849
Rhiant: Judith Davies
Rhiant: Edward Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 23 Awst 1765 ym Mlaen Trothi ym mhlwyf Grosmont, yn fab i ffermwr o'r enw Edward Davies a'i wraig Judith. Wedi gadael yr ysgol yn Llangatwg-Lingoed, a bwrw tymor byr yn glerc cyfreithiwr, bu am 15 mlynedd yn wehydd. Anhapus fu ei briodas (1796), ac aeth yntau i bedlera; ar ôl marw ei wraig bu ganddo siop fechan ym Mryn Buga, hyd 1812; yn y flwyddyn honno penodwyd ef yn ysgolfeistr ym Mryn Buga, ond yn 1815 agorodd ysgol yn Devauden. Dyn cwbl anfydol fu ef erioed; troes ei gefn ar fywoliaeth sicr ym Mryn Buga i fyw ar ffawd yn Devauden, ond at hyd ei oes faith yno bu'n hynod elusengar, yn gyfrannwr hael i achosion crefyddol ac addysgol, a rhannai Feiblau a llyfrau eraill ar ei gost ef ei hunan. Syniadau ei gyfnod am addysg oedd ei syniadau ef; byr oedd ei dymer, a disgyblai'n hallt. Yn wir, crefyddol oedd ei ddiddordebau, yn hytrach nag addysgol ym mhriod ystyr y gair; trowyd ei ysgoldy'n gapel anwes y bu ef yn glochydd iddo, a chodwyd ysgoldy newydd dan yr enw ' The James Davies School.' Yn 1848, dychwelodd i'w gynefin yn Llangatwg-Lingoed, a chymerth yr ysgol yno drosodd, er ei fod yn 83 oed. Bu farw yn Llangatwg, 2 Hydref 1849.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.