Ganwyd ym mhlwyf Llanllawddog, Sir Gaerfyrddin. Yn ôl pob tebyg, ni chafodd fawr o addysg. Yr oedd ei rieni yn aelodau o'r Eglwys Wladol, ond ymunodd ef â'r eglwys Annibynnol ym Mhencader pan oedd tuag 20 mlwydd oed, a dechreuodd bregethu. Urddwyd ef yn weinidog ar eglwys Pentre Tŷ Gwyn, Sir Gaerfyrddin, yn 1768. Derbyniodd alwad oddi wrth yr eglwysi yng Nghwm Llynfell, Cwm Aman, a'r Allt Wen tua diwedd y flwyddyn 1770 neu ddechrau 1771. Bu'n weinidog yno hyd ei farw ar 4 Rhagfyr 1821, ac fel ' Davies, Allt Wen ' yr adnabyddid ef yn gyffredin. Claddwyd ef ym mynwent Llangiwg.
Ceid llawer o ddadlau brwd ac ymbleidio mewn eglwysi Annibynnol yn y cyfnod hwn ynglŷn â Chalfiniaeth ac Arminiaeth. Pregethai John Davies yn rymus a dibaid yn erbyn Arminiaeth, a sonnid amdano'n gyffredin fel ' yr hen Sion Galfin.' Ni feddai'r ysgolheictod a ystyrid yn hanfodol i bulpud yr Hen Annibyniaeth, ond yr oedd ganddo bersonoliaeth gref, natur wresog, a chynheddfau grymus. Gadawodd ei weinidogaeth faith ddylanwad mawr ar y cylch eang yr oedd yn weinidog arno, ac yr oedd yn flaenllaw yng nghymanfaoedd yr Annibynwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.