Ganwyd ym Mangor 1832. Prentisiwyd ef yn argraffydd; bu ar staff olygyddol y North Wales Chronicle ac yn golygu Cronicl Cymru, 1866. I hwnnw ysgrifennodd ' Dyddlyfr Oliver Jenkins.' Yn 1868 sefydlodd fel argraffydd yng Nghaernarfon; o'i swyddfa ef y cychwynnwyd Y Goleuad, 30 Hydref 1869, ac ef oedd y golygydd cyntaf. Y mae ei nodiadau ar y tudalen cyntaf yn profi ei fedr fel newyddiadurwr. Ymhen rhai blynyddoedd newidiodd ei waith a phenodwyd ef yn rheolwr banc Pughe a Jones yng Nghaernarfon, ac ystyrid ef yn ddyn busnes da. Cymerodd ran flaenllaw ym mywyd y dref a bu'n faer. Ar un adeg bu'n ysgrifennu erthyglau arweiniol i'r Genedl Gymreig. Yr oedd yn awdur un emyn adnabyddus, sef yr emyn diolch sydd yn dechrau ' Anfeidrol Dduw rhagluniaeth… ' Bu farw yng Nghaernarfon, ddiwedd Ionawr, 1904.
Mab iddo ef oedd ROBERT GWYNEDDON DAVIES, awdur cyfieithiad i'r Saesneg o'r Bardd Cwsc, 1897 (ail arg. 1909), a fu farw 17 Ebrill 1928, yn 58 oed. Yr oedd yn gasglwr llawysgrifau, ac y mae amryw o'r rhain yn llyfrgell Coleg y Gogledd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/