DAVIES, LEWIS (1777 - 1828), cadfridog

Enw: Lewis Davies
Dyddiad geni: 1777
Dyddiad marw: 1828
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cadfridog
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

mab i John Davies o'r Crugiau, Llanbadarn-fawr, Aberystwyth. Ymunodd â'r fyddin yn 1791, bu'n brwydro ar y Cyfandir (1794, 1799), yn India'r Gorllewin (1796), ac yn Sbaen; enillodd glod arbennig yn Salamanca (1812). Ymneilltuodd i Dan-y-bwlch, Aberystwyth, a bu farw yno 10 Mai 1828, yn 51 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.