Ganwyd 3ydd o Fawrth 1830 yn Llwyn Einion, gerllaw'r Bala, brawd John Davies ('Einion Ddu'). Daeth i'r amlwg fel cantwr bariton a difyrrwr mewn eisteddfodau, etc. - yng Nghymru ac, yn ddiweddarach, yn U.D.A. Cymdeithas Lenyddol Meirion a roes ei gyfle iddo i gychwyn. Enillodd lawer o wobrau mewn eisteddfodau - eisteddfod genedlaethol 1865 yn eu plith; cafodd y gadair yn eisteddfod Gwyl Dewi Bethesda, sir Gaernarfon, 1867, am awdl ar ' Tywyllwch.' Cyhoeddwyd yn Yr Amserau (o dan y ffugenw ' Dewi Einion') rai englynion a gyfansoddodd pan nad oedd ond 16 oed. Yr oedd ganddo ddawn at gyfansoddi dychangerddi a phethau difyrrus eraill, a gwelir llawer o'i waith o'r math hwn yn Y Wasg Americanaidd; bu'n golygu ' Lloffion Difyrus ' y papur hwnnw, a rhoes hefyd yn ' Cwpwrdd Cornel ' yr un papur ddisgnifiadau byw o rai 'cymeriadau' a adwaenai yn Sir Feirionnydd ac o fywyd yn y Bala a'r cylch, ynghyd â chyfeiriadau at rai o feirdd cyfoes yr ardal honno. Bu'n cyfansoddi miwsig ac yn arwain corau yn ardaloedd Llwyn Einion, Tywyn Meirionnydd, Llanfachreth, a Rhydymain. Wedi iddo ymfudo i'r America cyhoeddwyd, yn 1870 yn Y Drych (Utica), ei nofel, 'Ceinwen Morgan, y Rian Dwylledig' (seiliedig ar fywyd yn Cwm Hirnant, Penllyn). Enillodd hefyd amryw wobrau mewn eisteddfodau am farddoniaeth - e.e. yn Kansas (1870), Hyde Park, Pa., Arvonia (1872), Utica (1875), a Youngs town (1880). Bu farw mewn tlodi, 23 Ionawr 1881, yn Oak Hill Farm, Waterville, a'i gladdu yng nghladdfa Ottawa, gerllaw Donsman, Wisconsin.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.