Yn sicr ni chafodd neb ryfeddach paratoad at y ddwy alwedigaeth nag a gafodd ef. Ganwyd yn 1794 mewn eglwys yn Ghent (Fflandrys), yn fab i ringyll yn y fyddin; yr oedd ei fam, beth bynnag, yn Gymreig. Bu farw'r tad, a phriododd y fam drachefn, â rhingyll arall, o'r enw Nice - yn ei hoffter ohono, mabwysiadodd y bachgen ei gyfenw'n rhan o'i enw ei hunan. Dan nawdd dug Efrog, dyrchafwyd y llysdad yn swyddog, a phenodwyd y bachgen yn 'ensign,' yn 12 oed. Aeth y ddau allan i'r India (1808), ac yno amlygodd yr hogyn allu anarferol i ddysgu ieithoedd. Lladdwyd y llysdad, a chlwyfwyd y llanc (bellach yntau'n swyddog), ym Mysore yn 1814; ond gwellaodd i gymryd ei ran yn y rhyfel yn Sbaen.
Wedi dychwelyd i Loegr, priododd, a thueddwyd ef at grefydd; dechreuodd bregethu yn 1820, a bu'n weinidog ar amryw eglwysi yn Lloegr, gan gynnwys Henffordd. Penodwyd ef yn llyfrgellydd Llyfrgell yr Annibynwyr yn 1831; ond yn 1834 cymerth eglwys Norwood. Yn 1839 penodwyd ef yn athro diwinyddol coleg yr Annibynwyr yn Aberhonddu; bu farw yno 22 Ionawr 1842. Gwerthwyd ei lyfrgell ym Mai 1842 mewn arwerthiant yn Llundain yn cynnwys 1228 o eitemau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.