O Ddyserth, a adnabyddid hefyd wrth yr enw 'Stephan'; ganwyd ym Mhrestatyn, Sir y Fflint, 8 Tachwedd 1790. Symudodd ei rieni i fyw i'r Dyserth tra yr oedd ef eto'n ieuanc. Yn 1822 priododd Catherine Price o Moelfra, ger Abergele, yr hon a fu farw yn 1835. Mae ei farwnad ar farwolaeth ei wraig yn gyfansoddiad teimladwy a thyner. Cyhoeddwyd llawer o'i gynhyrchion mewn cylchgronau Cymreig, ac y mae ei farddoniaeth o safon uchel. Yr oedd yn ymgeisydd eisteddfodol llwyddiannus, ac ymhlith ei gynhyrchion gorau ceir 'Hiraeth ar ol mabolaeth,' a enillodd y wobr yn eisteddfod y Gordofigion yn Lerpwl, 1840, ac 'Ymddiddan rhwng y bardd ac Amser.' Bu farw 6 Ebrill 1858, a chladdwyd ef yng Ngalltmelyd, ger Prestatyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.