DAVIES, THOMAS (1820 - 1873), Llandeilo, gweinidog Annibynnol

Enw: Thomas Davies
Dyddiad geni: 1820
Dyddiad marw: 1873
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn Nhrelech, 3 Ebrill 1820. Cafodd ei dderbyn yn aelod yno 8 Ebrill 1838. Aeth yn ifanc i weithio ym Maesteg, Morgannwg. Dychwelodd yn 1841 i fynychu'r Ysgol Frutannaidd yn Nhrelech. Bu flwyddyn yn ysgol Thomas, Caerfyrddin, ac yng Ngholeg Aberhonddu, 1843-7, lle yr oedd yn fyfyriwr eithriadol o ymroddgar. Enillodd enw fel pregethwr cymeradwy iawn. Ordeiniwyd ef yn y Tabernacl, Llandeilo, 10 a 11 Awst 1847. Bu'n gofalu am eglwys Hermon, Llansadwrn, 1847-50. Bu ar daith yn America yn 1871. Meddai ar bersonoliaeth hawddgar. Ganed ef yn freiniol fel llefarwr llithrig, huawdl; yr oedd yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd a nerthol ei gyfnod. Cynyddodd ei eglwys yn fawr yn ystod ei weinidogaeth. Cychwynnodd ysgol ddydd yn ei gapel. Ysgrifennodd yn aml i'r Diwygiwr, Y Beirniad, etc. Ef oedd awdur Hanes Cenedl y Cymry; Cofiant y Parch. T. Jenkins, Penygroes; Bywyd ac ysgrifeniadau D. Rees, Llanelli; Catecism Cenhadol. Bu farw 28 Hydref 1873.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.