Ganwyd yn Mynachdy, Clynnog, Sir Gaernarfon; nai i Robert Hughes, Uwchlaw'r Ffynnon. Pan oedd tua 18 oed symudodd gyda'i deulu i fferm yr Orsedd Fawr, Llangybi; yn 1872 gwnaeth ei gartref yn Brynllaeth, Llŷn. Priododd ferch i John Hughes, capten llong, Gellidara. Enillodd fel bardd yn eisteddfodau Pwllheli 1875, Caernarfon 1880, a Chaernarfon 1894. Canodd lu o englynion a rhai cywyddau. Treuliodd ddiwedd ei oes yn Llwyn'rhudol, Abererch. Bu farw fis Ebrill 1915 yn Gellidara a chladdwyd ef ym mynwent Penrhos.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/