Ganwyd 20 Mawrth 1805 ym Mhant-ysgyfarnog, Llan-y-crwys; bu yng Nghastell Hywel ac wedyn (ar ôl cadw ysgol am chwe mis yn Ffald-y-brenin) yn academi Caerfyrddin (1826-30), lle'r amlygodd fedr anarferol mewn ieithoedd a mathemateg. Bu'n weinidog (nid rhy lwyddiannus, gellid meddwl) am rai blynyddoedd yng Nghernyw, gan fyw yn Truro - ordeiniwyd ef yn Helford yn 1832; ond yn 1834 torrodd ei iechyd i lawr a dychwelodd adre. Yn 1835, cyflogwyd ef yn athro i blant tirfesurydd o'r enw Davies, yn Ffrwd-y-fâl (Llansawel); cododd Davies ysgoldy iddo, a ddaeth yn bur enwog fel cartref ysgol ragbaratoawl i ddarpar-weinidogion, ysgol a enillodd ganmoliaeth brin iawn dirprwywyr 1846 (gweler t. 227 o'r gyfrol gyntaf o'u hadroddiad). Pregethai William Davies hefyd yng nghapelau'r cylch, ac o 1841 hyd 1856 bu'n weinidog ar achos bychan a gychwynnwyd gan ewythr iddo yn 1840 ym Mharc-y-rhos, Pencarreg. Pregethwr diflas oedd, a chyhuddid ef (ar gam) o fod yn Undodwr, naill ai yn herwydd sychder academaidd ei bregethau neu'n fwy tebyg am ei fod yn cyfeillachu ag Undodwyr ac yn arholwr blynyddol yn Academi Caerfyrddin; mewn cylchgronau Annibynnol uniongred yr argraffwyd y swm gweddol helaeth a sgrifennodd. Ond heb os nac oni bai, yr oedd yn athro gwych ac yn ysgolhaig sownd; yn 1842 cafodd radd Ph.D. o'r Almaen - ni ddywedir gan ba brifysgol, ond y mae'r ffaith yn sicr. Ar ddiwedd 1854, symudodd o Ffrwd-y-fâl i Droed-y-rhiw (Allt-Walis), unwaith eto i gyfuno addysg teulu â chadw ysgol; ond yn 1856 penodwyd ef yn athro Hebraeg a mathemateg yng Nghaerfyrddin. Bu farw yno 11 Rhagfyr 1859, a chladdwyd ym mynwent Annibynnol Elim, Ffynnon-ddrain. Nid gorganmoliaeth yw ei ddedfryd arno'i hunan: 'his only eminence consisted in his tact as a teacher.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.