DAVIES, WILLIAM (1859 - 1907), cerddor

Enw: William Davies
Dyddiad geni: 1859
Dyddiad marw: 1907
Priod: Clara Davies (née Leighton)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 1 Hydref 1859 yn Rhosllanerchrugog. Cafodd addysg gerddorol yn blentyn gan Hugh Griffith a Richard Mills, Rhos. Cyn cyrraedd 20 oed enillodd ar ganu ' Total Eclipse ' (Handel) gyda chanmoliaeth Dr. Joseph Parry y beirniad, a anogodd ei gyfeillion i'w gynorthwyo i gael cwrs o addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Llwyddwyd i'w anfon i'r coleg, ac wedi cyfnod o astudiaeth ymsefydlodd yn athro cerddoriaeth yn Llangefni, Môn, yn 1880. Penodwyd ef yn 1884 yn gantor ym Mangor. Yn Llangefni y dechreuodd gyfansoddi caneuon a ddaeth yn boblogaidd. Y gyntaf oedd ' Pistyll y Llan,' a dilynwyd hi gan ' Y Banerwr,' ' Yr Ornest,' ' Chwifiwn Faner,' a ' Llwybr y Wyddfa.' Enillodd wobrwyon eisteddfod genedlaethol Lerpwl am y caneuon ' Neges y Blodeuyn,' a ' Y Gloch '; Llundain, 1887, am gân gadeirio gydag obligate i'r delyn; Wrecsam, 1888, am ' O na byddai'n haf o hyd,' a ' Myfanwy '; ac yn Aberhonddu, 1889, am bedair o ganeuon. Yn 1889 penodwyd ef i ganu tenor yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, allan o 86 o ymgeiswyr. Yn 1891 priododd â Clara Leighton, soprano yng nghwmni opera Carl Rosa. Yn 1894, allan o 100 o ymgeiswyr, dewiswyd ef yn ficer corawl cynorthwyol eglwys gadeiriol S. Paul, Llundain. Parhaodd i gyfansoddi, ac ystyrid ef yn un o gyfansoddwyr gorau ei gyfnod. Bu farw 30 Ionawr 1907, a chladdwyd ef ym mynwent Abney Park, Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.