Ganwyd 7 Hydref 1863 yn Nhalyllychau, Sir Gaerfyrddin, yn fab i Herbert Davies. Symudodd y teulu i Lanelli, a phrentisiwyd William yn swyddfa'r papur wythnosol, y Guardian, yn y dref honno. Wedyn bu'n ohebydd yng Nghaerdydd, yn olygydd yr Evening Express ac yn olygydd cynorthwyol i Lascelles Carr ar y Western Mail cyn ei benodi'n brif olygydd pan ymddiswyddodd Carr yn 1901. Yn ei waith beunyddiol yr oedd ei holl fryd, ac yn ôl Who's Who dyna oedd ei ddifyrrwch hefyd. Treuliai dair neu bedair awr ar ddeg o bob diwrnod wrth ei ddesg, ac nid oedd ball byth ar ei ynni a'i ddiwydrwydd. Yr oedd ganddo ddawn i ragweld canlyniadau polisi neu fudiad, a greddf i ddarllen meddwl a bwriad ei gydgenedl. Enillodd ymddiried a chyfeillgarwch llawer o arweinwyr Cymru o bob plaid ac enwad, a mynychent hwy ei ystafell yn gyson i drafod materion cyhoeddus. O ganlyniad bu ganddo gryn ddylanwad ar gwrs mudiadau yng Nghymru hyd tua 1931 pryd yr ymneilltuodd o'i swydd. Ysgrifennai'n finiog pan gyffroid ef, ond ffraethineb oedd nodwedd bennaf ei erthyglau. Ef a gychwynnodd y golofn ' Wales Day by Day ' a bu'n ei golygu 'n gyson am dros 30 mlynedd. Anaml y gwelid ef ar lwyfan, ond bu'n llywydd Cymmrodorion Caerdydd yn 1919-20, yn is-lywydd y ' World's Press Parliament ' yn 1904, yn aelod o lys llywodraethwyr Coleg y Brifysgol Deheudir Cymru a Mynwy, Caerdydd, ac yn ynad heddwch. Gwnaethpwyd ef yn farchog yn 1921. Bu farw 17 Mawrth 1935.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.